Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 8
Mawrth 2016
Amser y
cyfarfod: 13.00
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn
2.
Gweld y Cwestiynau
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
(15 munud)
NDM5985 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau
Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Storio Olew) (Cymru) 2016 yn
cael eu llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror 2016.
Dogfennau Ategol
Rheoliadau
Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Storio Olew) (Cymru)
2016
Esboniadol Memorandwm (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol -
Dim pwyntiau adrodd
(15 munud)
NDM5997 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru).
Dogfennau Ategol
Bil
Casglu a Rheoli Trethi (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
(30 munud)
NDM5967 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015-16 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 9 Chwefror 2016.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
i. y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
ii. yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
iii. cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
iv. cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; a
v.cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).
Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
-
nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai
blaenorol.
Dogfennau Ategol
Ail
Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015-16
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid
(60 munud)
NDM5986 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25:
Yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-2017 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ar 1 Mawrth 2016.
Troednodyn:
Yn unol â darpariaethau perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20.28, mae'r Gyllideb Flynyddol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
1. y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
2. yr adnoddau y cytunodd y Trysorlys arnynt ar gyfer cyllideb bloc Cymru am y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
3. cysoni rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i gyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau i'w hawdurdodi i'w defnyddio yn y cynnig;
4. cysoni rhwng yr amcangyfrif o'r symiau i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o'r Gronfa yn y cynnig; a
5. cysoni rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).
Darparwyd yr wybodaeth atodol ganlynol i'r Aelodau:
• Nodyn Esboniadol ar y newidiadau rhwng cynigion y Gyllideb Ddrafft a'r Gyllideb Flynyddol.
Mae Cynigion y Gyllideb Flynyddol 2016-17 i’w gweld yn y linc canlynol:
http://www.assembly.wales/laid%20documents/gen-ld10600/gen-ld10600-w.pdf
Dogfen Ategol
Cyllideb
Llywodraeth Cymru 2016-17
(240 munud)
Caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r
atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 y cytunwyd gan y Cynulliad ar 23 Chwefror 2016.
Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:
1. Dileu’r cyfyngiadau ar ddefnyddio dyfeisiau mewnanadlu nicotin
3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 16, 17, 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24, 25, 26, 2, 1
2. Mangreoedd a cherbydau di-fwg
56, 57, 60, 61, 62, 63, 64, 68, 69, 70, 71, 72, 73, 74, 75, 76, 77, 125, 127, 128, 131, 134, 138, 140, 146, 96, 51
3. Mangreoedd a cherbydau di-ddyfais mewnanadlu nicotin
58, 59, 65, 66, 67, 99, 100, 101, 102, 103, 104, 107, 108, 109, 110, 111, 112, 113, 114, 115, 118, 119, 120, 121, 123, 147, 95, 52, 53, 54
4. Adolygu ac adrodd: dyfeisiau mewnanadlu nicotin
27
5. Cynigion ar gyfer mangreoedd ac ardaloedd di -ddyfais mewnanadlu nicotin ychwanegol, ac esemptiadau perthnasol
105, 106, 116, 117, 122, 124, 126, 129, 130, 132, 133, 135, 136, 137, 139, 141, 142, 143, 144, 145, 97
6. Cofrestr o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin
78, 79, 80, 81
7. Triniaethau arbennig a rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff: amrywiol
82, 83, 84, 85, 86, 87, 88, 148
8. Ystyr ‘triniaethau arbennig’
28, 29, 30, 31, 32, 35, 36, 37, 38, 39
9. Y drosedd o roi triniaeth arbennig i bersonau meddw
33, 34
10. Gwasanaethau fferyllol
40, 89, 41
11. Darparu toiledau
42, 43, 44, 90, 91, 45, 46, 47, 149, 49
12. Asesiadau o’r effaith ar iechyd
92, 93, 94, 98, 55, 50
Dogfennau
Ategol
Bil
Iechyd y Cyhoedd (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Rhestr
o Welliannau wedi’u Didoli
Grwpio Gwelliannau
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.00, Dydd Mercher, 9 Mawrth 2016